Elusen yng Ngwent yn agor safle newydd i helpu trigolion lleol
Mae Helping Caring Team, sy'n cefnogi pobl ddigartref a phobl agored i niwed eraill ledled Gwent, wedi agor safle newydd yng nghanol tref Coed-duon gyda chymorth ariannol gan Gronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent.
Yn ogystal â rhoi man diogel i'r elusen gefnogi defnyddwyr gwasanaeth, mae'r tîm wedi sefydlu banc bwyd i drigolion lleol sydd wedi cael eu heffeithio gan dlodi a'r argyfwng costau byw.
Mae'r cyllid gan yr Uchel Siryf yn cyfrannu at rentu'r adeilad, sydd hefyd yn gweithredu fel man gwaith i 15 gwirfoddolwr yr elusen.
Nod Cronfa Uchel Siryf Gwent yw darparu ansawdd bywyd gwell a mwy diogel i bobl ifanc Gwent trwy gefnogi mentrau yn y gymuned a phrosiectau ar gyfer pobl ifanc sy'n helpu i leihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn cyfrannu £65,000 tuag at y gronfa.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Mae cymaint o grwpiau'n gweithio i wneud daioni yn eu cymunedau ac rwyf yn falch ein bod, trwy Gronfa'r Uchel Siryf, yn gallu cefnogi elusennau fel Helping Caring Team sy'n rhoi cymorth i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.
"Mae'r gwaith da mae'r elusen yn ei wneud yn helpu pobl i fyw bywydau mwy iach a diogel a rhaid i mi ganmol gwaith caled y gwirfoddolwyr sy'n gwneud y gwaith hwn yn bosibl."
Meddai Malgwyn Davies, Uchel Siryf Gwent: “Roedd yn fraint bod yn bresennol yn yr agoriad swyddogol a chwrdd â llawer o'r bobl ysbrydoledig sy'n gwirfoddoli ar gyfer Helping Caring Team.”
Mae Cronfa'r Uchel Siryf yn cael ei hwyluso gan Y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru.
Meddai Prif Weithredwr Richard Williams: “Mae Helping Caring Team yn enghraifft wych o'r gwaith ardderchog sy'n cael ei wneud i helpu'r bobl fwyaf agored i niwed yng Ngwent. Mae gwaith diflino'r gwirfoddolwyr yn ysbrydoledig ac rydym yn falch i gefnogi grwpiau fel hyn trwy Gronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent.