Eich Blaenafon, Eich Dewis
1af Ebrill 2022
Roedd y tîm yn falch o gael gwahoddiad i ymuno yn y digwyddiad Eich Blaenafon, Eich Dewis yn Neuadd y Gweithwyr Blaenafon y penwythnos diwethaf.
Roedd yn gyfle da i gwrdd â thrigolion lleol a thrafod ffyrdd o gadw'n ddiogel gartref ac yn y gymuned.
Mae siarad, gwrando a gwneud cysylltiad yn hanfodol er mwyn helpu i ddeall beth sy'n digwydd mewn cymunedau.
Os ydych chi'n cynnal digwyddiad yn y gymuned ac eisiau i ni fod yn bresennol, anfonwch e-bost i engagement@gwent.police.uk