Dyn o Gaerwent yn ennill Gwobr Arwr y Gymuned
Mae dyn o Gaerwent yn Sir Fynwy wedi cael ei enwi'n Arwr y Gymuned yn rhan o Wobrau Pride of Gwent 2020/21.
Sefydlodd Bernard Dawson fenter yn y gymuned i gefnogi pobl leol a oedd ar y rhestr warchod neu'n agored i niwed yn ystod pandemig Covid, gan gynnig cymorth gyda siopa, casglu meddyginiaeth a hyd yn oed cerdded cŵn.
Enillodd Wobr Arwr y Gymuned yn y seremoni flynyddol sy'n cydnabod y bobl hynny sy'n byw a gweithio yng Ngwent sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i'w cymunedau.
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, oedd yn noddi Gwobr Arwr y Gymuned ar y cyd â Heddlu Gwent. Dywedodd: “Llongyfarchiadau i Bernard sydd wedi gwneud gwaith gwych yn cefnogi pobl agored i niwed yn ei gymuned.
"Mae Gwent yn llawn o bobl fel Bernard sydd wedi bod yn allweddol yn edrych ar ôl y bobl agored i niwed yn eu cymunedau, a hoffwn ddiolch i bob un ohonynt am y rhan hollbwysig maent wedi ei chwarae yn cadw pobl yn ddiogel yn ystod y pandemig hwn."
Cafodd y digwyddiad ei arwain gan Simon Weston a gellir ei weld ar dudalen Facebook South Wales Argus.