Dyfodol cadarnhaol i bobl ifanc ym Maendy
Yr wythnos hon roeddwn wrth fy modd i weld pobl ifanc hyderus a grymus o Faendy yn cynnal gweithdy i oedolion yn ymdrin â pheryglon troseddau cyllyll a chyffuriau.
Dangosodd y bobl ifanc rhwng 10 ac 11 oed eu dealltwriaeth helaeth o'r pynciau maen nhw wedi eu dysgu wrth gymryd rhan mewn cyfres o sesiynau Ymyrraeth Gynnar, dan arweiniad Dyfodol Cadarnhaol a gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Casnewydd.
Nod sesiynau Ymyrraeth Gynnar yw newid ffordd o feddwl pobl ifanc sy'n byw mewn ardaloedd dan anfantais a difreintiedig yng Ngwent. Mae Dyfodol Cadarnhaol yn derbyn arian gan fy swyddfa i ac mae'n cynnig cyfleoedd unigryw i bobl ifanc yng Ngwent trwy atgyfeiriadau unigol, grwpiau wedi'u targedu a darpariaeth ddargyfeiriol mynediad agored.
Mae'r rhaglen Dyfodol Cadarnhaol yn gweithio ledled Gwent gydag amrywiaeth o bartneriaid yn cynnwys y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, Heddlu Gwent, awdurdodau lleol a sefydliadau chwaraeon lleol Sir Casnewydd a Chymuned y Dreigiau, i ddarparu gweithgareddau dargyfeiriol i rwystro plant a phobl ifanc rhag dechrau ymwneud â'r system cyfiawnder troseddol. Am ragor o wybodaeth: https://www.newportlive.co.uk/en/community-support/community-sport-and-wellbeing/our-projects-programmes-and-initiatives/positive-futures/
Rwyf yn falch bod fy Nghronfa Gymunedol yr Heddlu'n cefnogi amrywiaeth eang o brosiectau ledled Gwent sy'n grymuso pobl ifanc i ddewis llwybr cadarnhaol yn eu bywydau a pheidio â dewis bywyd o droseddu.
Am ragor o wybodaeth am y meini prawf a'r broses ymgeisio ar gyfer Cronfa Gymunedol yr Heddlu, ewch i - www.gwent.pcc.police.uk/en/what-we-spend/commissioning/police-community-fund