Dydyn ni ddim yn goddef trais rhywiol na cham-drin rhywiol yng Ngwent

8fed Chwefror 2022

Mae Heddlu Gwent yn rhannu neges glir cyn wythnos ymwybyddiaeth a fydd yn canolbwyntio ar gam-drin rhywiol a thrais rhywiol.

Fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Cam-drin Rhywiol a Thrais Rhywiol mae Heddlu Gwent yn anfon neges gref at droseddwyr sy’n targedu cymunedau bregus a gwan.

Gyda chefnogaeth heddluoedd a sefydliadau partner ledled y wlad, mae’r wythnos yn cynnig cyfle i dynnu sylw at y gwaith a gyflawnir i atal y math hwn o drosedd rhag digwydd, a dangos y gefnogaeth sydd ar gael i ddioddefwyr.

Meddai’r Prif Gwnstabl Pam Kelly: “Mae dioddefwyr wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud yma.

“Mae trosedd yn gallu cael effaith ddinistriol ar ddioddefwyr. Mae’n hanfodol bod dioddefwyr yn cael y wybodaeth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw i helpu i ymdopi ac adfer.

“Mae ein hwb i ddioddefwyr, a lansiwyd y llynedd, yn darparu’r gefnogaeth gywir i ddioddefwyr.”

Mae’r uned, sy’n cynnwys dros 15 o swyddogion gofal dioddefwyr, yn gweithredu fel canolbwynt ar bob cam o’r broses cyfiawnder troseddol.

Ers ei lansio, mae’r uned wedi helpu dros 4500 o ddioddefwyr, gan roi cefnogaeth briodol sy’n cyfateb i anghenion unigol pob dioddefwr.

Mae dioddefwyr trais rhywiol yn cael cefnogaeth bwrpasol gan swyddogion arbenigol sy’n deall yr effaith y gall y math hwn o drosedd ei chael ar berson.

Ychwanegodd y Prif Gwnstabl Pam Kelly: “Rhan fawr o’r gwaith o gadw cymunedau Gwent yn ddiogel yw atal troseddau rhag digwydd yn y lle cyntaf.

“Yn ddiweddar, rydyn ni wedi cael dros £673,000 o gyllid ychwanegol gan y Swyddfa Gartref i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched.

“Mae’r cyllid hwn eisoes yn gwneud gwahaniaeth, ac yn gwneud i bobl deimlo’n fwy diogel mewn mannau cyhoeddus.”

Gyda rhan o’r cyllid, mae Heddlu Gwent wedi datblygu cynllun achredu “Mannau Diogel” sy’n annog busnesau lleol i gynnig man diogel i fenywod a merched.

Drwy hyfforddiant, bydd busnesau lleol yn deall ymddygiad ac agweddau annerbyniol tuag at fenywod a merched, ac yn deall eu rôl i helpu’r rhai sydd mewn angen.

Bydd modd i fusnesau ledled Gwent gynnig cefnogaeth uniongyrchol i fenywod neu ferched sy’n teimlo’n anniogel ac y mae angen cymorth arnyn nhw.

I ddysgu rhagor am sut mae Heddlu Gwent yn gwneud strydoedd Gwent yn fwy diogel, ewch i www.gwent.police.uk/safer-streets/

Meddai Jeff Cuthbert, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent: “Rydyn ni’n gwybod bod camdriniaeth yn gallu arwain at ganlyniadau sy’n newid bywydau’r bobl sy’n ei brofi a’u hanwyliaid. Trwy gydweithio, gallwn roi’r cymorth a’r gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen ar ddioddefwyr i ddod â’r cam-drin i ben, a sicrhau nad yw’n digwydd eto.

"Mae gen i a’r Prif Gwnstabl ymrwymiad cadarn y bydd Heddlu Gwent yn parhau i weithio’n galed i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rydw i eisiau rhoi sicrwydd i bobl, os ydych chi wedi dioddef un o’r troseddau erchyll hyn, mae cymorth ar gael. Peidiwch â dioddef yn dawel. Dywedwch wrth rywun. Riportiwch.”