Dweud eich dweud am gyllid ar gyfer plismona yng Ngwent
Rydym yn gofyn i drigolion Gwent faint maen nhw'n fodlon ei dalu am blismona lleol.
Ers 2010 mae Heddlu Gwent wedi gweld gostyngiad 40% mewn termau real yn y cyllid mae'n ei dderbyn gan y llywodraeth ac mae wedi arbed bron i £50 miliwn ar draws y llu ers 2008.
Byddai cynnydd o £1 y mis yn nhreth y cyngor (i bob aelwyd band D) yn galluogi Heddlu Gwent i gynnal y 1,290 o swyddogion heddlu sydd ganddo ar hyn o bryd nes o leiaf 2020/21.
Byddai hefyd yn caniatáu i'r llu barhau i fuddsoddi yn y meysydd pwysicaf gan gynnwys troseddau difrifol a chyfundrefnol, seiberdroseddu, troseddau treisgar a chefnogi pobl fregus.
Heb y cynnydd bydd rhaid i Heddlu Gwent wneud toriadau pellach o oddeutu £5.3 miliwn ar draws y llu.
Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, sy'n gyfrifol am bennu'r praesept blynyddol, sef y swm mae trigolion yn ei dalu tuag at blismona trwy eu treth cyngor.
Dywedodd: “Rydym wedi arbed bron i £50 miliwn ar draws Heddlu Gwent ers 2008. Ar yr un pryd rydym wedi gweld cynnydd yn y galw ar yr heddlu mewn meysydd fel cam-fanteisio’n rhywiol ar blant, caethwasiaeth fodern a seiberdroseddu sy'n rhoi mwy o bwysau nac erioed o'r blaen ar ein swyddogion a staff.
“Nid oes neb eisiau talu mwy o dreth y cyngor ond yn anffodus oherwydd bod grant y llywodraeth ar gyfer plismona yn segur a dweud y lleiaf, nid oes dim arbedion ar ôl i ni eu gwneud. Os na chaiff y praesept ei gynyddu bydd hyn yn siŵr o gael effaith sylweddol ar blismona yng Ngwent.
"Rwy'n hyderus y bydd cynnydd o £1 y mis ym mhraesept treth y cyngor, sydd tua 25c yr wythnos ar gyfer eiddo cyffredin, yn ein galluogi ni i barhau i ddarparu lefel uchel o wasanaeth.
"Rwyf am glywed beth sydd gan bobl Gwent i'w ddweud a hoffwn annog cymaint o bobl â phosibl i gwblhau'r arolwg hwn".
I ddweud eich dweud cyn dydd Sul 13 Ionawr 2019 ewch i https://bit.ly/GwentPrecept19-20
Mae'r arolwg ar gael mewn fformatau eraill ar gais gan swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu trwy anfon e-bost at commissioner@gwent.pnn.police.uk neu ffonio 01633 642200.