Dosbarthiadau bocsio yn plesio plant Maendy
Cafodd plant o Ysgol Gynradd Maendy ddosbarth meistr bocsio gan focsiwr sydd wedi ennill medal aur, Sean McGoldrick.
Aeth y plant, a oedd o’r gymuned Roma yng Nghasnewydd, i Gampfa Bocsio St Michael’s, lle cawson nhw eu herio gan Sean, a bocsiwr lleol ar ddechrau ei yrfa, Orlando Holley-Sotomi.
Darparwyd y sesiwn gan gynllun Dyfodol Cadarnhaol Casnewydd Fyw, sy’n cynnig gweithgareddau ac allgymorth i blant a phobl ifanc, gan roi profiadau cadarnhaol iddyn nhw a helpu i’w harwain oddi wrth droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Meddai Martine Smith, arweinydd tegwch yn Ysgol Gynradd Maendy: “Mae’r gymuned Roma yn benodol wedi cael ei tharo’n galed gan y pandemig, ond heddiw mae’r plant i gyd yn gwenu.
“Mae hyn yn rhoi cyfle iddyn nhw gymryd rhan mewn camp na fydden nhw fel arfer yn cael cyfle i’w gwneud, a gobeithio bydd hyn yn helpu i’w harwain at drywydd mwy cadarnhaol ar gyfer y dyfodol.”
Ynghyd â chadw’r plant yn heini, mae’r sesiynau’n gyfle i gael sgyrsiau agored a gonest gyda’r plant am faterion fel cyffuriau a throseddau cyllell.
Meddai Matt Elliot o Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Casnewydd, sy’n gweithio gyda thîm Dyfodol Cadarnhaol ar hyn o bryd : “Mae’r prosiect yma mor bwysig i’r bobl ifanc, gan fod angen lle diogel arnyn nhw, ac wyneb diogel yn eu cymuned. Maen nhw eisiau rhywun i siarad gyda nhw, rhywun i ymddiried ynddyn nhw, a gallwn ni gynnig hynny.”
Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent yn darparu cyllid i brosiect Dyfodol Cadarnhaol allu cynnal sesiynau allgymorth ledled Gwent.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: “Trwy gynnig cyfle i blant a phobl ifanc, yn enwedig y rhai sydd mewn perygl go iawn o ddod yn rhan o droseddu difrifol, gymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol ar oedran cynnar, rydyn ni’n atgyfnerthu ymddygiadau cadarnhaol ac yn helpu i osod y gwaith sylfaenol a fydd yn caniatáu iddyn nhw gael dyfodol hapus ac iach.”