Diwygio'r heddlu

27ain Ionawr 2026

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Rwyf yn cydnabod yr angen i foderneiddio plismona, ac mae cyhoeddi papur gwyn Llywodraeth San Steffan heddiw yn nodi dechrau'r broses honno. Fodd bynnag, wrth i'r cynlluniau hyn ddatblygu mae'n hanfodol eu bod nhw'n cyflawni i bobl a chymunedau Cymru.

"Mae plismona yng Nghymru'n gweithredu mewn amgylchedd gwasanaeth cyhoeddus unigryw, wedi'i lunio trwy bartneriaethau agos gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, gwasanaethau iechyd, a'n partneriaid eraill.

"Mae'r dull gwaith seiliedig ar bartneriaeth yr ydym wedi ei ddatblygu dros nifer o flynyddoedd yma yng Nghymru wedi cael ei ganmol gan y naill lywodraeth ar ôl y llall, ac mae'n rhaid i unrhyw adolygiad o'r model a strwythurau plismona adlewyrchu'r gwaith yma. Rhaid hefyd ystyried y dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio orau i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

“Fel cynrychiolwyr sy'n cael eu hethol yn lleol, mae comisiynwyr yr heddlu a throsedd Cymru wedi ymroi i chwarae rhan lawn ac ystyrlon yn cynllunio trefniadau ar gyfer y dyfodol, gan sicrhau parhad, sefydlogrwydd ac atebolrwydd democrataidd yn ystod unrhyw newid.

"Rhaid i Lywodraeth San Steffan ddangos yn awr sut byddai'r newid rhanbarthol a strwythurol y mae'n ei gynnig yn gwella atebolrwydd lleol a chyflawni'r gwasanaeth gorau posibl i'n cymunedau."