Diwrnod Ymwybyddiaeth o Gamdriniaeth Pobl Hŷn.
Yr wythnos hon mae fy swyddfa wedi bod yn ymweld â threfi ledled Gwent i godi ymwybyddiaeth o’r nifer o fathau o gamdriniaeth sy’n effeithio ar bobl hŷn.
Mae’r sesiynau wedi cael cefnogaeth gan Cymorth i Fenywod Cyfannol, Tîm Seiberdrosedd Heddlu Gwent a thîm Dangos y Drws i Drosedd Heddlu Gwent er mwyn helpu cymunedau i ddeall sut i gael cefnogaeth a chyngor.
Meddai Jeff Cuthbert: “Yn anffodus, rydyn ni’n gwybod bod cam-drin yn gallu effeithio ar unrhyw un o unrhyw oedran, ond mae pobl hŷn yn arbennig o agored i gamdriniaeth a cham-fanteisio.
“Ni ddylai unrhyw un ddioddef unrhyw fath o gamdriniaeth ond, mewn rhai achosion, y bobl maen nhw’n eu caru ac yn ymddiried ynddynt fwyaf sy’n achosi’r mwyaf o loes a dinistr.
“Trwy godi ymwybyddiaeth, nid heddiw yn unig ond trwy gydol y flwyddyn, rwyf yn gobeithio y bydd pobl yn dod yn fwy ymwybodol o’r arwyddion ac yn dod yn hyderus i allu cyfeirio’r rhai sydd mewn angen at y cymorth a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw.
“Roedd cael adborth cadarnhaol gan drigolion sydd wedi cael cymorth gan wasanaethau cam-drin domestig yr wyf wedi bod yn falch iawn i roi cyllid iddyn nhw yn galonogol. Mae hyn yn pwysleisio bod angen i ni barhau i helpu ein trigolion mwyaf agored i niwed.”
Os ydych chi’n pryderu am ddiogelwch person hŷn, mae nifer o sefydliadau sy’n gallu helpu.
Cymorth i Fenywod Cyfannol
Ffoniwch: 03300 564456
Ewch i: http://horizonsvs.org.uk
Diogelu Gwent
Mae Diogelu Gwent yn amddiffyn unrhyw oedolyn a all fod mewn perygl o niwed, er mwyn eu hatal nhw rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.
Hourglass Cymru
Hourglass Cymru yw’r unig elusen genedlaethol sydd wedi ymroi i roi terfyn ar achosion o niweidio a cham-drin pobl hŷn.
https://wearehourglass.org/wales
Llinell gymorth 24/7 - 080 8808 8141
Byw Heb Ofn
Ffoniwch 0808 80 10 808
BAWSO
Gall pobl du a phobl o leiafrifoedd ethnig sydd wedi goroesi treisio, cam-drin rhywiol neu drais rhywiol gael cymorth arbenigol gan BAWSO.
Ffoniwch: 0800 731 8147
Ewch i: www.bawso.org.uk
Mae canolfan dioddefwyr Connect Gwent yn cynnig cymorth arbenigol i bobl hŷn. Ffoniwch 0300 123 21 333 neu ewch i www.connectgwent.org.uk
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.