Diwrnod Ymwybyddiaeth Corachedd
Cafodd fy nhîm y fraint o fynd i ddigwyddiad Diwrnod Ymwybyddiaeth Corachedd Little People UK yn y Senedd yr wythnos yma.
Nod y diwrnod oedd cydnabod a chodi ymwybyddiaeth o Gorachedd. Roedd yn pwysleisio pwysigrwydd ehangu sgyrsiau am hygyrchedd a chynhwysiant nid yn unig yn ein cymunedau ond yn ein mannau gwaith, ysgolion ac o fewn y proffesiwn meddygol.
Amcangyfrifir bod oddeutu 625,000 o bobl â chorachedd yn y byd a 7,000 o bobl yn y DU. Elusen yw Little People UK sydd wedi ymroi i wella ansawdd bywyd pobl â chorachedd. Mae'n rhoi cymorth a gwybodaeth feddygol i bobl â chorachedd a'u teuluoedd.
Daeth y digwyddiad â phanel ysbrydoledig o bobl wedi'u geni â chorachedd a chyflyrau cysylltiedig at ei gilydd i rannu eu hanesion pwerus ac ysbrydoledig. Gwnaethant bwysleisio'r angen am addysg ac ymwybyddiaeth fel bod pobl fach yn cael cyfleoedd cyfartal, yn cael eu gweld, eu clywed a'u cydnabod fel aelodau o gymdeithas.
Roedd y panel yn cynnwys Danielle Webb o Gasnewydd. Mae Danielle yn brwydro'n galed dros ymwybyddiaeth o gorachedd yng Ngwent. Cafodd ei geni â chorachedd, ac mae hi wedi bod yn gweithio i chwalu rhwystrau a dysgu cymunedau ledled Gwent trwy gynnal sesiynau codi ymwybyddiaeth a grymuso pobl ifanc ag anableddau i gael mynediad at gyfleoedd nad oeddent erioed wedi meddwl y gallent eu cael. Mae ei llyfr ‘Mummy there’s a new girl’ yn stori rymusol a diffuant am sut na ddylai maint fyth fod yn broblem.
Rhaid canmol gwaith Danielle yng Ngwent – mae hi wedi gwneud gwahaniaeth mawr. Rwyf wedi ymroi i chwalu rhwystrau mewn cymunedau a byddwn yn parhau i gydnabod a chodi ymwybyddiaeth o gorachedd yng Ngwent gan weithio ochr yn ochr â Little People UK.
Sut gallwch chi helpu
Byddwch yn ymwybodol o'r eirfa a ffafrir. Os gallwch chi, galwch rywun wrth eu henw bob amser. Os nad ydych chi'n gwybod beth yw eu henw nhw peidiwch â gadael i'w hanabledd eu diffinio.
Os oes angen i chi ddisgrifio rhywun â chorachedd, y termau derbyniol yw: person bach a corrach.
Edrychwch ar wefan Little People UK i gael rhagor o wybodaeth: https://littlepeopleuk.org/
Dilynwch Danielle Marie Webb @lifebeinglittle