Diwrnod y Lluoedd Arfog Pont-y-pŵl
23ain Gorffennaf 2022
Roedd yn bleser bod yn bresennol yng ngorymdaith ailddatgan Rhyddid Bwrdeistref Torfaen Y Cymry Brenhinol.
Roedd y digwyddiad yn rhan o Hwylddydd y Lluoedd Arfog ym Mharc Pont-y-pŵl, lle daeth ymwelwyr at ei gilydd i ddathlu’r cyflawniad gwych hwn.
Roeddwn yn falch i weld cannoedd o ymwelwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda’n Lluoedd Arfog gan gynnwys y Magnelwyr Brenhinol a’r Llynges Frenhinol sy’n mynd yr ail filltir i wasanaethu ac amddiffyn ein gwlad.
Roeddwn yn arbennig o falch i weld cadetiaid ifanc o wahanol luoedd yn y digwyddiad.
Mae’n bosibl iawn mai nhw fydd ein harwyr yn y dyfodol.