Diwrnod Treftadaeth y Byd Blaenafon
27ain Mehefin 2022
Ymunodd fy nhîm a minnau â channoedd o bobl i ddathlu Diwrnod Treftadaeth y Byd Blaenafon.
Roedd y diwrnod yn gyfle gwych i'r hen a'r ifanc ymgynnull yn y dref i gael hwyl a hel atgofion am hanes unigryw'r dref.
Roeddwn wrth fy modd i weld swyddogion o Heddlu Gwent yn ymuno â'r orymdaith ochr yn ochr â phobl leol o amrywiaeth eang o sefydliadau a grwpiau.
Rhoddodd fy nhîm gannoedd o eitemau atal troseddu i helpu preswylwyr i gadw'n ddiogel.
Diolch i bawb a ddaeth i ddweud helo.