Diwrnod Stephen Lawrence
Roedd Stephen Lawrence yn fachgen diniwed yn ei arddegau a chafodd ei farwolaeth giaidd ar 22 Ebrill 1993, effaith ysgytiol ar draws y byd.
Roedd y ffordd y cafodd yr achos hwn ei drin gan yr heddlu’r adeg honno yn warthus.
Datgelodd Adroddiad Macpherson rwydwaith o lygredd a arweiniodd at newidiadau mawr mewn plismona trwy'r DU cyfan.
Roedd yn gatalydd a dynnodd sylw at hiliaeth, rhywiaeth a homoffobia sefydliadol ehangach ein gwasanaethau cyhoeddus.
Oherwydd Stepen, mae plismona a’n holl wasanaethau cyhoeddus, wedi symud ymlaen llawer ers hynny.
Ond rydym yn gwybod bod mwy o waith i’w wneud o hyd.
Wrth symud ymlaen, rhaid i ni ail adeiladu ymddiriedaeth ymysg ein cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, a rhoi sicrwydd iddynt y bydd unrhyw un sy’n ymdrin â’r heddlu yng Ngwent yn cael ei drin yn gyfartal, yn deg a gyda pharch.
Rhaid i ni ddangos yn glir na fydd casineb, ar unrhyw ffurf, yn cael ei oddef yma.
Rwyf yn hyderus ein bod, ynghyd â Phrif Gwnstabl Kelly a’i thîm, yn sbarduno newid mewn diwylliant sy’n rhoi llais ein cymunedau wrth galon ein prosesau, ein polisïau a’n penderfyniadau.
Rydym eisoes yn gweithio gyda phedwar heddlu Cymru, a’n partneriaid sector cyhoeddus, i wneud gwelliannau yn ein sefydliadau ein hunain ac yn ein cymunedau. Ym mis Mehefin byddaf yn cymryd yr awenau fel cadeirydd Plismona yng Nghymru a bydd mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a gwahaniaethu ar lefel Cymru gyfan yn flaenoriaeth i mi.
Ond fyddwn ni byth yn hunanfodlon a byddwn yn parhau i weithio i sicrhau bod pob un o’n trigolion, a’n gweithwyr, yn teimlo’n hyderus y byddant yn cael eu trin yn deg gan eu heddlu, ac y byddant yn gallu byw eu bywydau yn rhydd rhag gwahaniaethu neu gasineb.
Rhaid i ni gofio ein bod yn well gyda’n gilydd, a thrwy ddysgu gwersi’r gorffennol byddwn yn creu dyfodol gwell.