Diwrnod Rhyngwladol y Menywod: Eleri Thomas, Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd
Ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni gofynnir i ni 'ysbrydoli cynhwysiant'. Mae'n alwad ar bob un ohonom ni i weithredu i chwalu rhwystrau a herio stereoteipiau ble bynnag y byddwn yn dod ar eu traws. I greu amgylchoedd lle mae pob menyw'n cael ei gwerthfawrogi a'i pharchu.
Mae herio gwahaniaethu, a gweithio i sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn gyfartal, yn deg, a gyda pharch, yn rhywbeth sydd wedi bod yn eithriadol o bwysig i mi erioed. Rwyf wedi bod yn lwcus i fod wedi cael rhai cyfleoedd ardderchog yn fy mywyd ac mae'r rhain wedi bod yn allweddol yn siapio fy ngyrfa, ac yn fy siapio i fel person. Fodd bynnag, treuliais gyfnod yn gwirfoddoli yn Swaziland yn ystod apartheid yn Ne Affrica a gwelais gyda'm llygaid fy hun beth oedd effaith anghydraddoldeb, gwahaniaethu a thrais.
Rhoddodd gweithio mewn cymunedau a oedd yn ddifrifol o ddifreintiedig ac a oedd yn cael eu cadw ar wahân ar sail hil ddyhead greddfol ynof i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, ynghyd â phenderfyniad i greu cyfleoedd i bobl sydd naill ai'n cael eu hallgáu yn fwriadol, neu sy'n angof, yn ein cymdeithas. Roeddwn eisiau sicrhau bod pobl yn cael cyfleoedd i fod y gorau y gallant fod, ni waeth beth yw eu rhywedd, hunaniaeth rywiol, hil, anabledd, crefydd neu fagwraeth.
Mae hon wedi bod yn thema trwy gydol fy ngyrfa a nawr, fel Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, rwyf mewn sefyllfa freintiedig i helpu i ysgogi cynhwysiant o fewn plismona a'r system cyfiawnder troseddol. I helpu i sicrhau bod y menywod sy'n gweithio fel swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yr heddlu'n cael cyfleoedd cyfartal, tâl cyfartal, a bod unrhyw rwystrau i lwyddiant menywod yn y gweithle'n cael eu dileu.
Ers i mi ddechrau fy swydd fel Dirprwy Gomisiynydd wyth mlynedd yn ôl mae Heddlu Gwent wedi croesawu diwylliant o newid. Yng Ngwent mae gennym Brif Gwnstabl a Dirprwy Brif Gwnstabl benywaidd yn awr, ac mae mwy o swyddogion benywaidd ar y rheng flaen nac erioed o'r blaen. Rwyf yn falch iawn hefyd bod gan ddioddefwyr cam-drin domestig a cham-drin rhywiol lais yn awr trwy gydlynydd ymgysylltu â goroeswyr penodedig, ac o'r gwaith rydym yn ei wneud i sicrhau bod menywod sy'n troseddu yn cael cynnig y cymorth a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i fyw bywydau hapusach ac iachach, sy'n rhydd rhag trosedd.
Rwyf wedi gweld cynnydd aruthrol yn ystod fy mywyd a'm gyrfa ac mae'n bwysig cydnabod y cyfraniad sylweddol mae menywod wedi ei wneud i'n cymdeithas. Ond rhaid i ni beidio â llaesu dwylo. Mae plismona ar siwrnai, ac mae tipyn o ffordd i fynd. Rhaid i ni barhau i 'ysbrydoli cynhwysiant' a chreu cyfleoedd sy'n galluogi menywod i ganfod posibiliadau newydd, ac i lwyddo ym mha bynnag ffordd maen nhw’n dewis.