Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

10fed Mawrth 2025

Mae Jane Mudd, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, wedi bod i ddigwyddiadau ledled Gwent i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Nod y digwyddiad blynyddol yw cydnabod cyflawniadau menywod, codi ymwybyddiaeth o wahaniaethu, a hybu cymdeithas fwy teg a chynhwysol.

Thema eleni oedd Gweithredu ar Garlam, sy'n pwysleisio pwysigrwydd cymryd camau cyflym a phenderfynol i gyflawni cydraddoldeb rhywiol

Dywedodd Jane Mudd, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd: "Mae'n bwysig i mi fod fy wyresau yn tyfu i fyny mewn cymdeithas lle mae pawb yn cael eu trin yn gyfartal ac nad yw eu rhyw yn rhwystr iddynt yn eu haddysg, gyrfa neu fywyd teuluol.

"Rwy'n falch o fod wedi bod yn un o'r ychydig arweinwyr cyngor benywaidd yng Nghymru, a bellach yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd benywaidd cyntaf Gwent. Rwy'n bwriadu defnyddio'r holl bwerau sydd ar gael i mi i weithio gyda Heddlu Gwent a phartneriaid ehangach i weithredu ar garlam a gwella profiad menywod a merched yma yng Ngwent.

"Byddaf yn lansio fy Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder cyn bo hir, a fydd yn cynnwys pwyslais cryf ar gefnogaeth i fenywod a merched, a byddaf yn gwneud buddsoddiad sylweddol i fy ngalluogi i gyflawni'r cynllun hwn i bobl Gwent, a gwneud gwahaniaeth i'n cymunedau."