Diwrnod Rhyngwladol Menywod
Blog gan Ddirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Eleri Thomas, ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod eleni.
Y thema ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Menywod eleni yw 'Dewis Herio'.
Rwyf yn lwcus i fod wedi cael cyfleoedd ardderchog yn fy mywyd a’r heriau y mae'r cyfleoedd hyn wedi'u cyflwyno sydd wedi bod yn allweddol yn fy llunio i yn bersonol a'm gyrfa.
Pan oeddwn yn tyfu i fyny, cefais fy amgylchynu gan deulu, ffrindiau, athrawon a hyfforddeion chwaraeon, a chefais gefnogaeth a chyfleoedd gennym, ynghyd ag anogaeth i herio fy hun. Rwyf yn credu mai trwy'r math hwn o ysbrydoliaeth y gall menywod mewn rolau arweiniol wneud y gwahaniaeth mwyaf; nid yma yng Ngwent yn unig, ond ar draws cymdeithas.
Fel myfyriwr treuliais amser yn gwirfoddoli yn Swaziland yn ystod apartheid yn Ne Affrica. Roedd gweithio mewn cymunedau a oedd yn ddifrifol o ddifreintiedig ac wedi'u gwahanu ar sail hil yn wahanol fath o her a deffrodd y profiad hwn rywbeth sydd wedi aros gyda mi ers hynny. Gwnaeth i mi fod eisiau helpu pobl i gyflawni hyd eithaf eu gallu, ni waeth beth fo'u rhywedd, hunaniaeth rywiol, hil, anabledd, crefydd neu fagwraeth.
Rwyf mewn safle unigryw yn awr fel Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu i helpu i sicrhau nad yw menywod ifanc sy'n gwasanaethu Gwent fel swyddogion heddlu, staff neu wirfoddolwyr yn profi unrhyw wahaniaethu. Rwyf yn gwneud hyn trwy helpu i sicrhau eu bod yn cael cyfle cyfartal, cyflog cyfartal a bod unrhyw rwystrau i fenywod lwyddo yn y gweithle yn cael eu chwalu.
Mae Heddlu Gwent wedi croesawu diwylliant o gydraddoldeb ac mae mwy o swyddogion benywaidd ar y rheng flaen nag erioed o'r blaen, gan gynnwys Prif Gwnstabl a Dirprwy Brif Gwnstabl benywaidd. Er bod gwaith i'w wneud o hyd, rwyf yn hyderus bod y dyhead am gydraddoldeb a'r ysgogiad i gyrraedd y nod wedi treiddio i bob lefel yn y sefydliad.
Ein nod yw adeiladu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac mae'n ddyletswydd arnom i hybu cydraddoldeb yn y cymunedau hynny hefyd. Rydym mewn sefyllfa i wneud i bethau ddigwydd a chreu cyfleoedd a fydd yn galluogi eraill, a menywod yn arbennig, i weld posibiliadau newydd, cymryd rhan mewn heriau newydd a ffynnu hyd eithaf eu gallu.
Mae'r cynlluniau Heddlu Bach a Chadetiaid yr Heddlu yn enghreifftiau perffaith o'r ffordd rydym yn creu'r cyfleoedd hyn i blant yn rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig yma yng Ngwent. Fy ngobaith yw eu bod yn cael eu hysbrydoli gan y teulu plismona i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau ac mae'n bleser eu gweld yn mynd o nerth i nerth.
Hoffwn ddathlu'r cyfraniad mae menywod wedi ei wneud i blismona yma yng Ngwent, yn swyddogion, staff heddlu a gwirfoddolwyr, yn arbennig yn ystod y pandemig lle mae llawer ohonynt wedi bod yn rhoi eu hunain a'u teuluoedd mewn perygl trwy wasanaethu ar y rheng flaen bob dydd. Mae pob un ohonoch yn glod i'ch proffesiwn a'r cymunedau rydych yn eu gwasanaethu.