Diwrnod Rhuban Gwyn
Heddiw rydym yn nodi Diwrnod Rhuban Gwyn pan fydd miloedd o bobl ledled y DU yn gwneud safiad, codi eu llais a dweud na wrth drais yn erbyn menywod.
Yn drist, rydym yn gwybod bod achosion o dreisio, trais rhywiol a cham-drin domestig wedi cynyddu yn ystod pandemig Covid-19.
Er ein bod yn gwybod bod dynion yn gallu dioddef y troseddau hyn hefyd, menywod yw mwyafrif helaeth y dioddefwyr.
Mae'r Cyfrifiad diweddaraf o fenywod yn cael eu lladd gan ddynion yn dangos bod 149 o fenywod wedi cael eu lladd gan ddynion yn y DU yn 2018. Cafodd dros hanner ohonynt eu lladd gan gyn briod neu bartner, a lladdwyd ymron i bob un ohonynt gan ddyn yr oeddent yn ei adnabod.
Mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom ni i fynd i'r afael â thrais gan ddynion yn erbyn menywod. Os ydych chi'n profi cam-drin domestig eich hun, neu os ydych chi'n pryderu am ffrind neu aelod o'r teulu, mae help ar gael. Does dim rhaid i chi ddioddef yn dawel.
Gall unrhyw un sy'n dioddef cam-drin domestig, neu sy'n pryderu am ffrind neu aelod o'r teulu, gysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800.
Mae cymorth ar gael trwy ganolfan dioddefwyr Connect Gwent hefyd ar 0300 123 2133.
Ffoniwch 101 i riportio trosedd. Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.
I godi ymwybyddiaeth o'r ffigwr erchyll hwn mae pobl o bob rhan o Went yn cymryd rhan yn #Her149.
Gallai hyn fod yn unrhyw beth o gerdded neu redeg am 149 munud, pobi 149 o gacennau neu danio 149 o ganhwyllau.
I weld beth mae pobl yng Ngwent wedi bod yn ei wneud ar gyfer yr her, chwiliwch am #Her149 ar Twitter.