Diwrnod Partneriaid Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn Rhymni
18fed Gorffennaf 2024
Yr wythnos yma ymunodd fy nhîm â Caerffili Saffach, Heddlu Gwent a phartneriaid yn y Diwrnod Partneriaid Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn Rhymni.
Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i sgwrsio â phreswylwyr am rai o’r problemau diogelwch cymunedol yn yr ardal a deall y problemau sy’n bwysig.
Mae gwrando ar bobl Gwent yn hollbwysig ac mae’n fy helpu i ddatblygu fy mlaenoriaethau ar gyfer fy Nghynllun Heddlu a Throsedd.
Byddaf i a’r tîm ar grwydr gydol yr haf yn rhoi cyfleoedd i breswylwyr leisio eu barn a chael eu clywed.