Diwrnod Hawliau’r Gymraeg 2022
7fed Rhagfyr 2022
Mae gennych chi hawl i dderbyn gwasanaethau Cymraeg gan sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru. Comisiynydd y Gymraeg sy’n gyfrifol am bennu a gorfodi Safonau’r Gymraeg.
Mae gen i a’r Prif Gwnstabl Strategaeth y Gymraeg sy’n amlinellu sut bydd Heddlu Gwent a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn cydymffurfio â’r Safonau hyn.
Mae gen i sianeli Cymraeg pwrpasol hefyd er mwyn i siaradwyr Cymraeg dderbyn y newyddion diweddaraf gan fy swyddfa yn eu hiaith ddewisol.
Gallwch gofrestru i dderbyn ein e-fwletin wythnosol neu gallwch ein dilyn ni ar ein Tudalen Facebook Cymraeg.