Diwrnod Hawliau'r Gymraeg
7fed Rhagfyr 2020
Gall siaradwyr Cymraeg gael y newyddion diweddaraf am weithgareddau Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent drwy’r e-fwletin a thudalen Facebook Gymraeg bwrpasol.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: "Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod trigolion Gwent sy’n siarad Cymraeg yn cael y gwasanaeth gorau posibl. Mae ein tudalennau e-fwletin a’n cyfryngau cymdeithasol Cymraeg yn ein galluogi i ymgysylltu â nhw'n fwy effeithiol yn yr iaith y maen nhw yn ei dewis."
Cofrestrwch ar gyfer yr e-fwletin.
Dilynwch Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar Facebook.