Diwrnod Datblygu'r Bwrdd Strategaeth Cyfiawnder Troseddol
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi dod â phartneriaid at ei gilydd o'r maes plismona a'r system cyfiawnder troseddol ehangach i drafod sut y gallant gydweithio'n agosach i gyflawni'r blaenoriaethau yn ei Chynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder.
Bu cynrychiolwyr y Bwrdd Strategaeth Cyfiawnder Troseddol, sy'n cynnwys Heddlu Gwent, Gwasanaeth Erlyn y Goron, y Gwasanaeth Carchardai, y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, yn trafod materion allweddol ac yn edrych ar ffyrdd i weithio'n fwy cydweithredol.
Y Comisiynydd sy'n cadeirio'r Bwrdd a’i bwrpas yw darparu system cyfiawnder troseddol deg, effeithlon ac effeithiol ledled Gwent. Ei nod yw atal, lleihau ac ymateb i drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan ganolbwyntio ar anghenion dioddefwyr a thystion.
Meddai Comisiynydd Mudd: “Nid cyfrifoldeb plismona yn unig yw ymdrin â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a dyna pam mae partneriaethau effeithiol yn hollbwysig i ymateb i'r problemau yma'n effeithiol.
"Rwyf i mewn sefyllfa unigryw i ddod â phartneriaid at ei gilydd i wella canlyniadau i bobl Gwent. Roedd hon yn sesiwn werthfawr i amlinellu fy Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder a sicrhau y bydd ein gwaith yn y dyfodol yn cyd-fynd er mwyn cefnogi blaenoriaethau'r cynllun".