Diwrnod Cofio'r Holocost 2024
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dros Dro, Eleri Thomas, wed talu teyrnged i'r miliynau o ddioddefwyr a laddwyd yn ystod yr Holocost.
Wrth siarad cyn Diwrnod Cofio'r Holocost ar 27 Ionawr, dywedodd: "Nod Diwrnod Cofio'r Holocost yw dod â phobl at ei gilydd i gofio am y miliynau o bobl a gafodd eu llofruddio yn ystod yr Holocost ac mewn achosion eraill o hil-laddiad ers hynny ar draws y byd.
"Mae'n fwy pwysig nac erioed ein bod yn parhau i ddiogelu ein hegwyddorion o oddefgarwch, cynhwysiant a chydraddoldeb. Rydym wedi cymryd camau breision tuag at wireddu’r delfrydau hyn yn ein cymunedau yma yng Ngwent, ond mae'n rhaid i ni wneud mwy. Mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i sicrhau nad yw casineb ac anoddefgarwch yn trechu mewn cymdeithas. Rhaid i ni sefyll yn gadarn a herio ymddygiad fel yma ble bynnag a phryd bynnag rydym yn ei weld."
Gwybodaeth am Gymorth
Gallwch riportio trosedd casineb wrth Heddlu Gwent drwy ffonio 101, ar wefan Heddlu Gwent, neu ar Facebook a Twitter.
Gallwch siarad â Cymorth i Ddioddefwyr hefyd os nad ydych chi eisiau siarad â'r heddlu. Maen nhw'n rhoi cymorth, cyngor a chefnogaeth annibynnol i bobl sydd wedi dioddef ac wedi bod yn dyst i drosedd casineb yng Nghymru. Ffoniwch Cymorth i Ddioddefwyr unrhyw bryd am ddim ar 0300 3031 982.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.