Diwrnod Cofio’r Holocost
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd, wedi ymuno â chynrychiolwyr o gymunedau a sefydliadau ledled Gwent mewn seremoni arbennig yng Nghadeirlan Casnewydd i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost.
Roedd y digwyddiad dan arweiniad plant ysgol o bob rhan o'r ddinas ac yn cynnwys darlleniadau, cerddoriaeth a gorymdaith gyda chanhwyllau drwy'r gadeirlan.
Yn rhan o'r diwrnod cofio, bydd pencadlys Heddlu Gwent yng Nghwmbrân yn cael ei oleuo yn borffor ar gyfer ymgyrch Goleuo’r Tywyllwch Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost.
Cynhelir Diwrnod Cofio'r Holocost ar 27 Ionawr ac mae'n nodi’r dyddiad y rhyddhawyd y carcharorion o Auschwitz-Birkenau, gwersyll marwolaeth mwyaf y Natsïaid. Eleni, rydym yn nodi 80 mlynedd ers rhyddhau’r carcharorion.
Mae'r diwrnod blynyddol yn cofio'r chwe miliwn o Iddewon a lofruddiwyd yn ystod yr Holocost, a'r miliynau o bobl eraill a laddwyd ac a erlidiwyd gan y gyfundrefn Natsïaidd. Mae hefyd yn coffáu'r rhai a laddwyd mewn hil-laddiadau diweddarach yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur, a'r hil-laddiad Yazidi.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: "Roedd yn anrhydedd i mi sefyll gyda chynrychiolwyr cymunedol o ledled Gwent i goffáu'r miliynau o bobl a laddwyd yn yr Holocost ac mewn hil-laddiadau diweddarach.
"Wrth i ni gymryd amser i gofio'r miliynau a laddwyd, mae'n bwysig ein bod hefyd yn meddwl am y byd yr ydym am fyw ynddo heddiw.
"Rwyf am i'n cymunedau fod yn lleoedd lle gall pawb fyw eu bywydau fel nhw eu hunain, heb ofn a niwed. Lle mae pawb yn trin ei gilydd â gwerthoedd derbyn, goddefgarwch a pharch.
"Gyda'n gilydd gallwn gyflawni hyn a, gyda'n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth a chreu cymdeithas well i ni gyd."