Diwrnod Cofio'r Holocost
Roedd yn fraint i mi gael ymuno gyda chynrychiolwyr cymunedau o bob rhan o Went yng Nghadeirlan Casnewydd i goffáu'r miliynau o bobl a laddwyd yn yr Holocost ac mewn hil-laddiad ers hynny.
Roedd y digwyddiad dan arweiniad plant ysgol ac roedd yn cynnwys darlleniadau, cerddoriaeth a gorymdaith gyda chanhwyllau. Yn ystod yr orymdaith cyhoeddwyd enwau rhai o'r bobl a fu farw yn ystod yr Holocost.
I nodi'r achlysur, mae pencadlys Heddlu Gwent yng Nghwmbrân wedi cael ei oleuo yn borffor i ddangos ein bod yn cofio ac i ddangos ein bod yn rhan o ymgyrch Goleuo’r Tywyllwch Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost.
Wrth i ni gymryd amser i gofio'r rhai a lofruddiwyd, mae'n rhaid i ni hefyd ystyried y math o fyd rydym am ei lunio heddiw. Rwyf am i'n cymunedau fod yn lleoedd lle gall pawb fyw eu bywydau yn agored ac yn ddiogel fel nhw eu hunain, heb ofn neu niwed. Cymunedau lle'r ydym yn derbyn, goddef a pharchu ein gilydd.
Trwy sefyll gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth go iawn a helpu i greu cymdeithas well, fwy cynhwysol i bawb."