Diwrnod Cofio'r Holocost
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi ymuno ag arweinwyr cymuned ac arweinwyr grwpiau ffydd ym Mhencadlys Heddlu Gwent i gofio'r chwe miliwn o Iddewon a lofruddiwyd yn ystod yr Holocost, a phobl a laddwyd mewn achosion eraill o hil-laddiad yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.
Dywedodd Jeff Cuthbert: “Rwy'n falch i sefyll gydag arweinwyr y gymuned ac arweinwyr grwpiau ffydd, a'm cydweithwyr yn yr heddlu, i gofio'r miliynau a gollodd eu bywydau yn yr Holocost ac achosion diweddarach o hil-laddiad.
"Rwyf am i Went fod yn rhywle y gall pobl fyw a gweithio ynddo, ac ymweld ag ef, heb ofni profi casineb o unrhyw fath, gan gynnwys anoddefgarwch crefyddol.
"Mae pwysau gwleidyddol a phryderon cymdeithasol ac economaidd wedi achosi cynnydd mewn tensiynau cymunedol ar draws y byd. Mae gwahaniaethu'n dal i ddigwydd, felly rhaid i ni barhau i hyrwyddo a gwarchod ein hegwyddorion o oddefgarwch, cynhwysiant a chydraddoldeb.
"Trwy weithio gyda'n gilydd gallwn adeiladu cymuned fwy cydlynol, sy'n rhydd o ofn a chasineb."