Diwrnod Cofio Cenedlaethol yr Heddlu
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi talu teyrnged i swyddogion yr heddlu sydd wedi cael eu lladd neu wedi colli eu bywydau wrth gyflawni eu dyletswyddau.
Wrth siarad cyn Diwrnod Cofio Cenedlaethol yr Heddlu ddydd Sul 24 Medi, dywedodd: “Yn gyntaf oll, mae Diwrnod Cofio Cenedlaethol yr Heddlu yn gyfle i ni gofio am y swyddogion hynny sydd wedi colli eu bywydau wrth gyflawni eu dyletswyddau.
“Yn ddiweddar, gwelsom farwolaeth drasig y Rhingyll Graham Saville yn Swydd Nottingham a fu farw wrth achub bywyd dyn mewn trallod ar y rheilffyrdd. Roedd yn weithred ddewr a dihunan, ac ni fydd yn mynd yn angof.
“Mae’n enghraifft drasig o’r risgiau y mae swyddogion yn eu hwynebu bob dydd wrth iddynt amddiffyn a gwasanaethu ein cymunedau, a hoffwn ddiolch i swyddogion yr heddlu, ddoe a heddiw, am eu gwasanaeth ac am bopeth a wnânt i’n cadw’n ddiogel.”
Sefydlwyd Diwrnod Cofio Cenedlaethol yr Heddlu ar ôl i swyddog yr heddlu, Jon Odell, o Gaint yn 2000. Mae'r digwyddiad blynyddol yn gyfle i gofio swyddogion yr heddlu sydd wedi colli eu bywydau, ond mae hefyd yn cydnabod ymroddiad a dewrder swyddogion yr heddlu ledled y DU.