Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu

23ain Medi 2025

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jane Mudd, wedi talu teyrnged i swyddogion yr heddlu sydd wedi cael eu lladd neu wedi colli eu bywydau wrth gyflawni eu dyletswyddau.

Roedd y Comisiynydd yn siarad mewn seremoni ym mhencadlys Heddlu Gwent yng Nghwmbrân, cyn Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu ddydd Sul 28 Medi.

Sefydlwyd Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu ar ôl i swyddog heddlu o Gaint, Jon Odell, gael ei ladd yn 2000. Mae'r digwyddiad blynyddol yn gyfle nid yn unig i gofio swyddogion yr heddlu sydd wedi colli eu bywydau, ond i gydnabod ymroddiad a dewrder swyddogion yr heddlu ledled y Deyrnas Unedig hefyd.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: “Yn gyntaf oll, mae Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu yn gyfle i ni gofio am y swyddogion hynny sydd wedi colli eu bywydau wrth gyflawni eu dyletswyddau.

"Mae hefyd yn ein hatgoffa ni o'r peryglon mae swyddogion yn eu hwynebu bob dydd wrth iddynt weithio i'n cadw ni'n ddiogel. Hoffwn ddiolch o galon i chi, holl swyddogion yr heddlu, rhai'r gorffennol a'r presennol, am eich gwasanaeth a phopeth rydych chi’n ei wneud i ni.”