Diwrnod agored Canolfan Galw Heibio Pobl Ifanc Senghennydd
1af Mehefin 2022
Cynhaliodd Canolfan Galw Heibio Pobl Ifanc Senghennydd yng Nghaerffili ddiwrnod agored yr wythnos hon i gynnig rhywle i bobl ifanc fynd yn ystod gwyliau hanner tymor.
Rwyf wedi cefnogi Canolfan Galw Heibio Pobl Ifanc Senghennydd ers dros 20 mlynedd, i ddechrau yn ystod fy nghyfnod fel Aelod Cynulliad ac yn awr trwy fy nghronfa gymunedol.
Mae bob amser yn wych gweld pa mor galed mae'r tîm yn gweithio i roi cefnogaeth i bobl ifanc yn y gymuned leol, a chynnig man diogel iddyn nhw gyfarfod, cymdeithasu a thyfu.