Diwrnod 999 Cil-y-coed
11eg Awst 2022
Roeddwn yn falch o ymuno â fy nhîm ar gyfer Diwrnod 999 Cil-y-coed ar y penwythnos.
Roedd yn ddigwyddiad prysur iawn a buom yn siarad â channoedd o bobl yn ystod y dydd.
Yn ogystal â diwrnod llawn hwyl i'r teulu, mae ochr ddifrifol i ddigwyddiadau fel hyn. Maen nhw’n caniatáu i drigolion gwrdd â'r bobl 'tu ôl i'r bathodyn' sydd wedi ymroi i gadw cymunedau'n ddiogel.
Gwirfoddolwyr cymunedol sy'n trefnu'r digwyddiad, ac rwy'n canmol pawb a wnaeth y diwrnod yn bosibl.