Disgyblion yn helpu Heddlu Gwent i fyfyrio ar ei arferion
Mae disgyblion o Ysgol John Frost, Casnewydd wedi ymuno gyda swyddogion Heddlu Gwent a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd i lunio Panel Craffu Ieuenctid Heddlu Gwent.
Mae’r panel yn cynnwys gwirfoddolwyr o flynyddoedd 10 ac 11 a bydd yn gweithio gyda Heddlu Gwent i roi adborth gonest ac agored ynghylch perfformiad swyddogion mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd.
Bydd y grŵp yn cyfarfod trwy gydol y flwyddyn, gan roi man diogel a chyfrinachol i bobl ifanc graffu ar waith Heddlu Gwent.
Yn ystod y sesiynau, a fydd yn digwydd yn yr ysgol, bydd pobl ifanc yn cael eu hannog i ddefnyddio eu greddf i gwestiynu gwaith swyddogion mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd sydd wedi cael eu recordio ar gamerâu corff. Bydd y sefyllfaoedd hyn yn cynnwys stopio a chwilio a defnyddio grym wrth arestio. Defnyddir grym pan mae angen i swyddogion ymdrin yn gorfforol ag unigolion i gynorthwyo gydag arést, i leihau risg iddyn nhw eu hunain, yr unigolyn a phobl eraill, er enghraifft trwy ddefnyddio gefynnau.
Bydd y Panel Craffu Ieuenctid yn cefnogi gwaith Grŵp Cynghori Annibynnol Heddlu Gwent sy’n cynnwys oedolion o gefndiroedd amrywiol a grwpiau nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol, sy’n cynnig safbwyntiau personol ar bolisïau, gweithdrefnau ac arferion yn y llu i amddiffyn enw da'r llu a diogelu rhag effeithio’n niweidiol ar unrhyw ran o’r gymuned.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert:
“Fy rôl i yw dwyn Heddlu Gwent i gyfrif a chraffu ar waith y llu a swyddogion.
“Rwyf yn awyddus i glywed cyfraniad pobl ifanc o’r Panel Ieuenctid. Bydd eu sylwadau’n darparu lefel arall o graffu a fydd yn helpu fy nhîm i ystyried pa mor effeithiol yw’r llu.
“Mae llais pobl ifanc yn hynod o bwysig. Mae’n hanfodol ein bod yn gwrando ar bobl ifanc ac yn gweithredu yn sgil eu syniadau i helpu i ddeall sut mae swyddogion yn ymdrin â chymunedau yng Ngwent.”
I gael rhagor o wybodaeth am waith y Grŵp Cynghori Annibynnol, ewch i: https://www.gwent.police.uk/police-forces/gwent-police/areas/about-us/about-us/independent-advisory-group/