Disgyblion yn dangos eu creadigrwydd wrth ddylunio cerdyn Nadolig swyddogol y Comisiynydd

18fed Rhagfyr 2024

Yn ddiweddar, cymerodd disgyblion o ysgolion ledled Gwent sy'n rhan o'r cynllun Heddlu Bach ran mewn cystadleuaeth i ddylunio cerdyn Nadolig swyddogol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent.

Gofynnodd y Comisiynydd Jane Mudd i'r plant gynnwys negeseuon o gariad ac undod ar gyfer eu cymuned yn eu dyluniadau. Derbyniwyd mwy na 100 geisiadau, a'r enillydd oedd Oscar, disgybl yn Ysgol Gynradd Gwndy yn Sir Fynwy.

Cynllun i blant ysgol gynradd ym mlynyddoedd 5 a 6 yw'r Heddlu Bach. Mae'r cynllun yn helpu plant ac ysgolion i roi sylw i broblemau lleol, sy'n cael eu nodi gan y plant, yn eu cymunedau eu hunain. Mae'n annog cydlyniant cymunedol ac mae disgyblion yn cael cymorth gan Heddlu Gwent sy'n helpu i chwalu rhwystrau a meithrin ymddiriedaeth yn yr heddlu o oedran ifanc.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: "Hoffwn ddiolch i'r holl ddisgyblion am gymerodd ran. Roedd yn anodd iawn dewis fy hoff un allan o gymaint o ddyluniadau gwych. Roeddwn wrth fy modd yn edrych ar y gwaith celf ac roedd rhai wedi rhoi jôcs o fewn y dyluniad, a wnaeth i mi chwerthin!

“Hoffwn ddiolch i dîm NXT Gen Heddlu Gwent hefyd a helpodd gyda'r gystadleuaeth ac annog yr ysgolion yn y cynllun Heddlu Bach i gymryd rhan.”