Disgyblion Penygarn yn holi'r Comisiynydd

4ydd Chwefror 2025

Mae plant o Ysgol Gynradd Penygarn ym Mhont-y-pŵl wedi bod yn holi Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd.

Gofynnodd y plant, sy'n aelodau o uned Heddlu Bach yr ysgol i'r Comisiynydd am ei rôl a'r gwaith mae hi wedi bod yn ei wneud ers iddi gael ei hethol y llynedd.

Mae mwy na 150 o unedau Heddlu Bach mewn ysgolion ledled Gwent yn awr. Mae'r cynllun yn rhoi cyfle i blant ddysgu am blismona, cymryd rhan mewn gweithgareddau, ac yn eu hannog nhw i chwarae rhan weithredol yn eu cymuned.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Roedd yn hyfryd cwrdd â'r plant o Heddlu Bach Ysgol Gynradd Penygarn ac ateb eu cwestiynau. Cefais fy holi'n drwyadl iawn ganddyn nhw! Roedd ganddyn nhw gwestiynau gwych ac roeddwn yn falch i weld mor bwysig oedd eu cymuned iddyn nhw.

"Mae'r Heddlu Bach yn gynllun ardderchog sy'n annog plant i ddysgu sgiliau newydd a gweithio er budd y gymuned, gan feithrin ymddiriedaeth a hyder yn yr heddlu ar yr un pryd. Yn bwysicach na dim, mae'r plant i gyd yn cael llawer o hwyl hefyd."