Disgyblion Maendy yn mapio mannau diogel yn eu cymuned
Cymerodd disgyblion Roma o Ysgol Gynradd Maendy ran mewn gweithdy Mannau Diogel i nodi llefydd yn y gymuned maen nhw’n teimlo’n ddiogel ac yn anniogel ynddynt.
Roedd y sesiwn, a hwyluswyd gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, yn dilyn cyfarfod a gafodd y disgyblion ym mis Rhagfyr gyda Chomisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, a Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Eleri Thomas.
Bu swyddogion o Heddlu Gwent yn cefnogi’r gweithdy, gan wrando’n astud ar bryderon y disgyblion a rhoi sicrwydd pan oedd angen hynny. Mae hyn yn rhan o waith ehangach Heddlu Gwent sy’n rhoi plant a phobl ifanc wrth wraidd penderfyniadau, a bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio wrth ddatblygu cynlluniau plismona lleol.
Meddai Jeff Cuthbert, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent: “Rwy’n croesawu’r sesiynau Mannau Diogel ac yn gobeithio cynnal sesiynau tebyg mewn ysgolion ledled Gwent yn y dyfodol.
“Gall y ffordd rydyn ni’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc heddiw gael effaith bellgyrhaeddol ar ansawdd bywydau’r rhai sy’n cymryd rhan ac agweddau a diwylliant cymdeithas yn y dyfodol.
“Mae’n rhaid clywed a pharchu lleisiau plant a phobl ifanc. Ro’n i’n falch fod y disgyblion yn siarad yn agored ac yn onest am y mannau maen nhw’n teimlo’n ddiogel ynddynt, gan gynnwys eu cartrefi, yr ysgol, ac yn Nhŷ Cymunedol. Serch hynny, roeddwn i hefyd yn pryderu nad ydyn nhw’n teimlo’n ddiogel mewn rhai ardaloedd y dylen nhw.
“Rwy’n gwybod bod Heddlu Gwent yn gweithio’n rhagweithiol gyda’r ysgol, y disgyblion a’u teuluoedd i helpu i chwalu rhwystrau a chreu perthynas y gallan nhw ymddiried ynddi.
“Drwy weithio mewn partneriaeth gyda’r ysgol, y disgyblion a theuluoedd, gall cymunedau sy’n agored i niwed gael eu grymuso i adrodd am drosedd, deall peryglon cyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac adnabod arwyddion gweithgarwch llinellau cyffuriau.
Meddai Martine Smith, Arweinydd Tegwch Ysgol Gynradd Maendy: “Mae gweithio mewn partneriaeth i feithrin ymddiriedaeth a pherthnasau yn hanfodol ar gyfer diogelu a gwella ein cymuned. Mae bod â mannau diogel i chwarae ynddynt yn hawl y mae pob plentyn yng Nghymru yn ei haeddu.”
Mae Tŷ Cymunedol yn cael cyllid gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent i ddarparu prosiect ‘Schools Out’, sy’n cynnig man diogel i blant a phobl ifanc o Ysgol Gynradd Maendy a’r ardaloedd cyfagos.
Mae’r Comisiynydd yn dyfarnu cyllid, drwy grantiau neu gontractau, i sefydliadau sy’n cyfrannu at leihau trosedd ac anhrefn yng Ngwent, neu i sefydliadau sy’n helpu dioddefwyr neu dystion i ymdopi a gwella ar ôl niwed maen nhw wedi’i brofi.
Rhagor o wybodaeth: https://www.gwent.pcc.police.uk/cy/y-hyn-rydym-yn-ei-wario/comisiynu/