Disgyblion Casnewydd yn mapio mannau diogel yn eu cymuned

28ain Tachwedd 2024

Mae disgyblion o Ysgol Gynradd St Michael yng Nghasnewydd wedi cymryd rhan mewn gweithdai Mannau Diogel i nodi ardaloedd yn eu cymuned lle maen nhw'n teimlo'n anniogel.

Roedd y sesiwn, a gafodd ei hwyluso gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, yn annog y plant i feddwl am y llefydd maen nhw'n byw ynddynt, yn mynd i'r ysgol, ac yn treulio amser ynddynt gyda ffrindiau a theulu, a nodi unrhyw ardaloedd sy'n peri pryder iddyn nhw. Gwnaethant drafod problemau sy'n effeithio arnyn nhw hefyd, a'u dealltwriaeth nhw o'r heddlu a sut maen nhw'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

Mae'r wybodaeth yma'n cael ei rhannu gyda Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, a'r tîm plismona cymdogaeth ar gyfer yr ardal er mwyn llywio cynlluniau plismona lleol.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Swydd y Comisiynydd yw gwrando ar y bobl a siarad ar eu rhan yn y maes plismona.

"Mae'r gweithdai Mannau Diogel rydyn ni'n eu cynnal i ysgolion yn un o'r ffyrdd rydyn ni'n sicrhau bod lleisiau plant yn cael eu clywed. Mae'r wybodaeth rydyn ni'n ei chael o'r sesiynau yma'n cyfrannu'n uniongyrchol at yr ymgyrchoedd plismona lleol ac yn helpu i lywio fy mhenderfyniadau i fy hun hefyd.

"Rwyf eisiau diolch i'r plant am gymryd rhan yn y sesiwn ac am weithio mor dda gyda fy nhîm.

I drefnu sesiwn Mannau Diogel i ysgol neu grŵp cymuned, cysylltwch â engagement@gwent.police.uk