Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi'i phenodi
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi ail benodi Eleri Thomas MBE i wasanaethu fel Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu am y tair blynedd nesaf.
Ail benodwyd Ms Thomas, a gafodd ei phenodi'n ddirprwy i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu am y tro cyntaf yn 2016, yn dilyn gwrandawiad cadarnhau yng nghyfarfod Panel yr Heddlu a Throseddu Gwent ddydd Iau 20 Mai.
Ar hyn o bryd mae'n arwain gwaith strategol Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar blant a phobl ifanc, a thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Dywedodd: “Rwyf wrth fy modd i gael cyfle arall i wasanaethu pobl Gwent ac edrychaf ymlaen at gefnogi Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i barhau i gyflawni ei flaenoriaethau heddlu a throseddu dros y blynyddoedd nesaf.
"Yn gweithio gyda Heddlu Gwent rydym wedi ysgogi ymgyrchoedd llwyddiannus iawn dros y pum mlynedd diwethaf sydd wedi gwella gwasanaethau i blant a phobl ifanc yn fawr, yn ogystal â dioddefwyr bregus. Mae gennym lawer mwy i'w wneud ac rwyf yn edrych ymlaen at allu parhau'r gwaith pwysig iawn hwn.”
Yn flaenorol roedd Ms Thomas yn Ddirprwy Gomisiynydd Plant Cymru lle y sbardunodd bolisi strategol a dylanwad deddfwriaethol i wella hawliau plant. Derbyniodd MBE yn 2009 am ei gwasanaeth i blant a phobl ifanc Cymru fel pennaeth gwaith yr elusen Achub y Plant yng Nghymru.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: "Mae gwaith caled Eleri a'i hymroddiad i gefnogi'r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau yn haeddu clod ac rwyf yn falch iawn i allu ei hail benodi i barhau ei gwaith am dymor arall."