Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi'i phenodi

24ain Mai 2024

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jane Mudd, wedi ail benodi Eleri Thomas yn ddirprwy iddi.

Gwasanaethodd Ms Thomas fel Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd i'r cyn gomisiynydd Jeff Cuthbert o 2016 nes iddo roi'r gorau i'r swydd ym mis Mai 2024.

Yn ystod y cyfnod yma, bu'n arwain meysydd gwaith yn cynnwys plant a phobl ifanc, cyfiawnder troseddol, cydraddoldeb, cam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod a merched.  Cafodd ei phenodi'n Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd dros dro hefyd ar ddechrau 2024 pan oedd y Comisiynydd yn sâl.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: “Mae ymroddiad Eleri i bobl Gwent yn amlwg. Mae ganddi gyfoeth o wybodaeth am y darlun cyfiawnder troseddol yng Nghymru ac mae hi'n uchel iawn ei pharch yn y maes yma.

“Er bod gen i fy mlaenoriaethau a'm gweledigaeth fy hun ar gyfer yr hyn rwyf eisiau ei gyflawni yn ystod fy nghyfnod fel comisiynydd, bydd cyngor ac arweiniad Eleri yn arbennig o ddefnyddiol a bydd yn cynnig cysondeb i'n gwaith gyda sefydliadau partner.

“Rwyf hefyd yn falch iawn bod gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent gomisiynydd, dirprwy, a phrif swyddog gweithredol benywaidd yn arwain y sefydliad yn awr. Rwy'n credu bod hyn yn arwyddocaol iawn ac yn anfon neges gadarnhaol i fenywod a merched yn ein cymunedau am y cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw.”

Dywedodd Eleri, a oedd yn Ddirprwy Gomisiynydd Plant Cymru yn flaenorol: “Rwyf yn falch fy mod wedi chwarae rhan annatod o fewn Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd dros yr wyth mlynedd diwethaf ac rwyf wrth fy modd i fod wedi cael cyfle arall i wasanaethu pobl Gwent.

“Rwyf yn edrych ymlaen at gefnogi'r comisiynydd newydd i ddatblygu a chyflawni ei chynllun heddlu a throsedd newydd ac i helpu i sicrhau bod pobl Gwent yn derbyn gwasanaeth effeithlon ac effeithiol gan eu heddlu. Rwyf yn awyddus i ymgysylltu ag aelodau ein cymunedau ledled Gwent ynglŷn â’r materion sydd o bwys iddyn nhw.”