Dileu cosbi plant yn gorfforol yng Nghymru
25ain Ionawr 2022
O ddydd Llun 21 Mawrth bydd cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru.
Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i, smacio, slapio, bwrw ac ysgwyd.
Bydd yn rhoi i blant yr un hawliau ac amddiffyniad rhag ymosodiad ag oedolion.
Ar ôl dydd Llun 21 Mawrth 2022 bydd unrhyw un sy'n cosbi plentyn yn gorfforol:
- yn torri'r gyfraith
- mewn perygl o gael ei arestio neu ei gyhuddo o ymosodiad
• yn gallu cael cofnod troseddol, sydd yr un fath ar gyfer unrhyw drosedd.
Mae gwybodaeth, cyngor a chymorth ar gael i unrhyw un sydd ei angen. Ewch i wefan Llywodraeth Cymru - Magu Plant. Rhowch Amser Iddo i gael manylion.