Digwyddiad Threads, Tastes and Traditions

26ain Chwefror 2026

Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd â phreswylwyr yn Community House yng Nghasnewydd ar gyfer digwyddiad trawsddiwylliannol i ddathlu bwyd, ffasiwn a cherddoriaeth.

Roedd y digwyddiad ‘Threads, Tastes and Traditions’ yn cynnwys sioe ffasiwn yn dangos gwisg draddodiadol o wahanol ddiwylliannau, ynghyd ag arddangosiadau coginio, gweithdai cerddoriaeth ac adrodd straeon.

Cynhaliwyd y digwyddiad gan Age Alive, gyda'r nod o herio stereoteipio ar sail oedran a dod â'r gymuned at ei gilydd i hybu creadigrwydd, lles a chynhwysiant.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Roedd wir yn hyfryd ymuno â'r gymuned leol i ddathlu ei holl ddiwylliannau a thraddodiadau gwahanol.

"Mae Age Alive yn gwneud gwaith mor dda yn creu ac annog amgylchedd cynhwysol sy'n cefnogi ein preswylwyr hŷn, gan eu helpu nhw i deimlo'n eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn gysylltiedig, ac yn hyderus yn eu cymuned.

"Ar adeg pan mae cymaint o bobl yn ceisio creu rhwyg rhyngom ni, roedd yn galonogol ac yn tawelu meddwl i weld bod ysbryd cymunedol yn fyw ac yn iach yma."