Digwyddiad lles Coleg Gwent
Yr wythnos yma aeth fy nhîm i gefnogi digwyddiad lles a chynnydd Coleg Gwent ym Mharth Dysgu Torfaen yng Nghwmbrân.
Mae'r digwyddiadau yma'n gyfle da i siarad â dysgwyr am amrywiaeth o faterion, i glywed am unrhyw bryderon sydd ganddynt, ac i gynnig cyngor atal trosedd iddynt.
Ar hyn o bryd rydym yn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc am eu canfyddiadau o'r heddlu, er mwyn deall sut maent yn teimlo pan fyddant yn gweld swyddogion heddlu yn eu cymunedau a'r rhesymau dros y teimladau yma.
Rydym eisiau clywed gan bobl ifanc am eu profiadau gyda swyddogion heddlu a sut mae’r rhain wedi llywio eu barn.
Mae'r holl wybodaeth yma'n cael ei chasglu, ei hadolygu, ac mae'n helpu i lywio gwaith Heddlu Gwent a fy swyddfa ar gyfer y dyfodol. Mae'n un o'r ffyrdd rydym yn galluogi plant a phobl ifanc i ddweud eu dweud am blismona yn eu cymunedau.