Digwyddiad i fynd i'r afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yng nghanol tref Cwmbrân
Cynhaliwyd digwyddiad yng ngorsaf dân Cwmbrân i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol y dref.
Yn ystod y noson, a oedd yn cael ei chynnal gan Heddlu Gwent, daeth pobl ifanc a oedd yn gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, a'u teuluoedd, i glywed am yr effeithiau y gallai eu gweithredoedd gael ar bobl eraill yn yr ardal a sut y gallai chwaraeon fod yn ffordd dda o droi eu sylw at weithgareddau eraill.
Roedd prop Dreigiau Casnewydd a Chymru, Leon Brown yn siarad yn y digwyddiad. Siaradodd Leon, sydd bellach yn Llysgennad Dyfodol Cadarnhaol, â'r bobl ifanc am ei brofiadau personol a sut roedd chwaraeon wedi ei helpu ef i gyflawni ei uchelgeisiau.
Yn dilyn y digwyddiad, dywedodd Leon "Mae wedi bod yn wych siarad gyda'r bobl ifanc yma heno a chlywed am eu profiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
“Mae rhaglenni fel Dyfodol Cadarnhaol yn dangos gwir bŵer chwaraeon a'r hyn y gall ei wneud i dynnu pobl ifanc oddi ar y strydoedd trwy roi lle diogel iddyn nhw ddysgu parch a disgyblaeth, a bod yn egnïol ar yr un pryd.”
Dywedodd Cwnstabl Kim Meyrick, Rheolwr Ward Heddlu Gwent yn Nhorfaen, a chwaraeodd ran allweddol yn trefnu'r digwyddiad, "Rydym yn gwybod bod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn arwain at droseddu.
“Y bwriad heno yw annog y bobl ifanc sydd wedi cael eu canfod i fod mewn perygl o fynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol i ddod o hyd i lwybr arall.”
Mae Dyfodol Cadarnhaol yn rhaglen cynhwysiant cymdeithasol, sy'n cael ei hariannu'n bennaf gan Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Mae'n defnyddio chwaraeon fel ffordd o ymgysylltu â phobl ifanc a'u cael nhw i gyfrannu at weithgareddau cadarnhaol.
I ganfod mwy, ewch i https://bit.ly/PosFutFeb19.