Digwyddiad Diwrnod Cofio'r Holocost
Ymunodd Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Eleri Thomas, ag aelodau'r gymuned ac arweinwyr ffydd mewn digwyddiad ar-lein a gynhaliwyd gan Heddlu Gwent i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost.
Mae'r digwyddiad blynyddol yn cofio'r chwe miliwn o Iddewon a gafodd eu llofruddio yn ystod yr Holocost, a'r rhai a fu farw mewn hil-laddiad yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.
Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Eleri Thomas : “Roedd yn fraint cael bod yn bresennol yn y digwyddiad i gofio'r miliynau o bobl sydd wedi colli eu bywydau yn yr Holocost ac achosion o hil-laddiad ers hynny.
"Roedd geiriau emosiynol a grymus yr arweinwyr ffydd ac aelodau'r gymuned yn dod â'r dioddefaint mae miliynau o bobl wedi ei brofi yn fyw. Yn anffodus mae miliynau o bobl yn dal i brofi dioddefaint wrth iddynt ffoi o’u gwledydd i ddianc rhag hil-laddiad.
"Yn anffodus, mae'r pandemig, pwysau gwleidyddol a phryderon cymdeithasol ac economaidd wedi achosi cynnydd mewn tensiynau cymunedol ar draws y byd ac mae gwahaniaethu'n dal i ddigwydd. Rhaid i ni barhau i hybu a diogelu ein hegwyddorion o oddefgarwch, cynhwysiant a chydraddoldeb.
“Rwyf am i Went fod yn lle y gall pobl fyw a gweithio ynddo, ac ymweld ag ef, heb ofni profi casineb o unrhyw fath, gan gynnwys anoddefgarwch crefyddol.
"Mae rhoi cymorth i ddioddefwyr trosedd casineb yn flaenoriaeth i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ac rydym yn cymryd y gwaith hwnnw o ddifrif." Mae llawer o sefydliadau yng Ngwent sy'n gallu helpu. Hoffwn annog unrhyw un sydd wedi dioddef trosedd casineb i geisio cymorth.
"Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn adeiladu cymuned fwy cydlynus, sy’n rhydd rhag ofn a chasineb."
Mae Connect Gwent yn cynnig cymorth i ddioddefwyr trosedd casineb yng Ngwent. Ewch i connectgwent.org.uk neu ffoniwch 0300 123 2133.