Dewrder Rhingyll yn cael ei gydnabod gydag enwebiad am wobr genedlaethol
Mae rhingyll o Heddlu Gwent wedi cael ei chydnabod ag enwebiad ar gyfer Gwobr Genedlaethol Dewrder Heddlu ar ôl iddi orchfygu ac arestio dihiryn oedd yn chwifio cyllell.
Roedd Rhingyll Menna Watkins yn ymateb i adroddiadau o aflonyddwch lle'r oedd y drwgweithredwr honedig wedi bygwth dyn â chyllell.
Siaradodd Rhingyll Watkins â’r dioddefwr honedig yn y fan a’r lle ac roedd yn ceisio cael rhagor o wybodaeth am y drwgweithredwr honedig pan ymddangosodd drwy’r dyrfa a neidio tuag ati. Defnyddiodd ei theclyn Taser wrth iddo redeg tuag ati ac yna rhoi gefynnau amdano ac aros am gymorth.
Disgrifiodd Annalea Kift, ysgrifennydd Ffederasiwn Heddlu Gwent, Menna fel “clod” i’r heddlu: “Roedd gan Menna y proffesiynoldeb a’r tawelwch meddwl i ddal ei thir, i dynnu a rhyddhau ei theclyn Taser.
“Llwyddodd i ryddhau ei theclyn Taser yn gywir ac i orchfygu ac arestio troseddwr treisgar a oedd yn fygythiad gwirioneddol i’w diogelwch personol ac aelodau eraill o’r cyhoedd. Yna, llwyddodd i gadw’i phwyll a gwasgu ei botwm argyfwng i sicrhau bod yr unedau oedd yn agosáu yn cael eu briffio'n llawn ac yn ymwybodol o'i lleoliad a'r sefyllfa.
“Dangosodd Menna broffesiynoldeb gwych, rheolaeth dan bwysau, a dewrder. Mae’n glod i Heddlu Gwent.”
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: “Rhoddodd Menna ei hun mewn perygl mawr er mwyn amddiffyn bywydau pobl eraill ac rwy’n falch bod ei dewrder wedi’i gydnabod gydag enwebiad am wobr genedlaethol.
“Hoffwn ddiolch iddi, ar fy rhan fy hun ond hefyd ar ran pobl Gwent, am y weithred hon o ddewrder, a’r rôl bwysig mae Menna yn ei chwarae bob dydd gyda’i chydweithwyr yn yr heddlu yn cadw ein preswylwyr yn ddiogel.”