Deall beth sy'n bwysig i bobl ifanc
Yr wythnos hon cwrddais â phobl ifanc o Fforwm Ieuenctid Rhanbarthol Gwent sy'n gweithio gyda fy swyddfa i helpu i drefnu a chynnal Hawl i Holi Ieuenctid 2023.
Mae Hawl i Holi Ieuenctid yn rhoi llwyfan i bobl ifanc ac yn rhoi cyfle iddynt ofyn cwestiynau i banel o weithwyr proffesiynol am faterion sy'n bwysig iddyn nhw.
Rwyf wrth fy modd i gael cwmni Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly, Comisiynydd Plant Cymru, Riccio Cifuentes; a'r Ymgynghorydd Rhywiol ac Atgenhedlol, Dr. Jane Dickson ar y panel.
Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Mercher 15 Mawrth 6pm-8pm ym Mharth Dysgu Torfaen, campws Coleg Gwent.
Rhoddodd y sesiwn cynllunio gyfle i mi siarad â’r bobl ifanc, gwrando arnynt a deall rhai o'r problemau sy'n effeithio arnyn nhw a'u cymunedau.
Siaradodd y grŵp am ymddygiad gwrthgymdeithasol a fandaliaeth, a pha mor hawdd yw hi i blant a phobl ifanc gael gafael ar e-sigaréts.
Byddaf yn sôn am y materion hyn yn fy nghyfarfod 1:1 wythnosol gyda'r Prif Gwnstabl. Fodd bynnag, er mwyn mynd i'r afael â llawer o'r problemau hyn mae'n rhaid i ni weithio mewn partneriaeth gyda'r gymuned, awdurdodau lleol, y maes iechyd, busnesau lleol, a chymdeithasau tai.
Rwyf yn edrych ymlaen at ddysgu mwy am y problemau sydd o bwys i bobl ifanc yn y digwyddiad.
Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer pobl 11-25 oed. Cadwch le ar gyfer y digwyddiad trwy glicio ar y ddolen: https://www.eventbrite.co.uk/.../gwent-youth-question...