Dathlu Dydd Gŵyl Dewi

6ed Mawrth 2025

Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd â thrigolion o bob rhan o Went i ddathlu diwylliant Cymru yn Theatr Glan yr Afon ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Llwyddodd digwyddiad ‘Mwy na Dreigiau a Daffs’ Cyngor Dinas Casnewydd i ddenu heidiau o bobl trwy gydol y dydd i brofi cerddoriaeth, celfyddydau a bwyd Cymreig traddodiadol a chyfoes.

Yn rhan o'r digwyddiad, cyhoeddodd Race Council Cymru thema Hanes Pobl Dduon Cymru 365 eleni, sef 'Hanes Pobl Dduon yw Hanes Cymru'. Mae'r rhaglen flynyddol yma o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn cael cymorth gan bedwar comisiynydd yr heddlu a throsedd Cymru.

Meddai Comisiynydd Mudd: “Roedd hwn yn ddigwyddiad ardderchog ac yn ffordd wych o nodi ein diwrnod cenedlaethol. 

"Mae gennym ni gymuned amrywiol sy'n tyfu yma yng Ngwent, ac roedd yn bleser go iawn gweld preswylwyr o wahanol gymunedau a chefndiroedd yn dod at ei gilydd ac yn dathlu hanes a threftadaeth Cymru."