Datgelu cynlluniau ar gyfer gorsaf heddlu newydd y Fenni

9fed Rhagfyr 2021

Heddiw, datgelwyd cynlluniau gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert, ar gyfer gorsaf heddlu bwrpasol yn y Fenni.

Mae prynu llain o dir yn Llanffwyst yn golygu, yn amodol ar ganiatâd cynllunio, y gallai gwaith ar adeiladu cartref tymor hir ar gyfer timau ymateb a phlismona cymdogaeth yr ardal ddechrau tua canol 2022.

Meddai Jeff Cuthbert: “Mae llawer iawn o amser ac ymdrech wedi'u rhoi i’r prosiect hwn, ac rwy'n hynod falch ein bod yn gallu cyflawni ein hymrwymiad i gael canolfan barhaol i Heddlu Gwent yn y Fenni o'r diwedd.

“Mae dod o hyd i safle addas wedi gofyn am ddyfalbarhad, ac rwy’n ddiolchgar i drigolion lleol a’n timau heddlu am weithio gyda ni wrth i ni ddod o hyd i’r ateb iawn ar gyfer y dyfodol.”

Ychwanegodd y Prif Gwnstabl Pam Kelly: “Mae'r lleoliad yn golygu y gall ein tîm cymdogaeth gyrraedd canol y dref ar droed yn hawdd, tra bod gan ein ceir ymateb fynediad da i'r rhwydweithiau ffyrdd lleol ar gyfer galwadau brys. Er ein bod wedi llwyddo i gynnal ein lefel perfformiad o'n lleoliad dros dro, rwy’n gwybod y bydd llawer o breswylwyr yn falch o weld gwireddu’r addewid cadarn yma ynghylch gwasanaethau yn y dyfodol.

“Mae ein swyddogion wedi gweithio’n galed o’u swyddfeydd dros dro i gadw trigolion ardal y Fenni yn ddiogel, ac mae’n newyddion da iddyn nhw hefyd ein bod ni nawr yn gallu nodi ein cynlluniau ar gyfer canolfan a fydd yn cael ei dylunio yn ôl anghenion heddlu modern.”

Ar ôl llwyddo i brynu’r safle, bwriedir i'r gwaith ddechrau yn 2022, gyda'r orsaf newydd ar waith erbyn diwedd 2023, yn amodol ar ganiatâd cynllunio.

Gall aelodau’r cyhoedd sydd am siarad â Heddlu Gwent wyneb yn wyneb barhau i ddefnyddio ein gwasanaeth cownter yn Neuadd y Dref yng nghanol y Fenni neu gysylltu â swyddogion lleol drwy’r cyfryngau cymdeithasol neu drwy ffonio 101.