Datganiad ar y Cyd gan Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu Cymru
Mae'r cyhoeddiad bod rôl Comisiynwyr Heddlu a Throseddu (CHTh) i'w diddymu yn cynrychioli moment arwyddocaol i lywodraethiant plismona yng Nghymru a ledled Lloegr.
Fel Comisiynwyr, rydym ni a'n swyddfeydd yn cyflawni swyddogaethau hanfodol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a diriaethol i fywydau miloedd o bobl, o gomisiynu gwasanaethau hanfodol i ddioddefwyr a goroeswyr, i ddwyn ein heddluoedd i gyfrif, llunio blaenoriaethau lleol, a chynrychioli lleisiau ein cymunedau. Bydd y gwaith pwysig hwn yn parhau drwy gydol unrhyw gyfnod pontio.
Er nad yw manylion trefniadau llywodraethiant y dyfodol wedi'u pennu eto, mae wedi bod yn amlwg ers peth amser bod diwygio'r dirwedd blismona wedi bod yn uchel ar agenda'r Llywodraeth. Mae Ysgrifennydd Cartref blaenorol a’r Ysgrifennydd Cartref presennol wedi nodi bwriad i adolygu ac ail-lunio goruchwyliaeth plismona lleol. Wrth i'r broses hon ddatblygu, mae ein ffocws yn parhau i fod ar sicrhau bod atebolrwydd, tryloywder a gwasanaeth cyhoeddus yn parhau i fod wrth wraidd unrhyw fodel newydd.
Credwn ei bod yn hanfodol bod y cam nesaf yn darparu sefydlogrwydd, parhad a hyder, i'r cyhoedd, i ddioddefwyr, i bartneriaid plismona ac i'r gweithlu. Ni ddylai'r cyfnod pontio dynnu sylw oddi wrth yr hyn sydd bwysicaf: cadw pobl yn ddiogel, cefnogi dioddefwyr, ac adeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd mewn plismona.
Wrth I gynlluniau ar gyfer y dyfodol gael eu datblygu, rydym yn barod i gyfrannu ein gwybodaeth, ein profiad a'n mewnwelediad i helpu i lunio'r model goruchwylio nesaf. Rydym yn annog Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r Swyddfa Gartref i gydweithio â ni ac i ymgynghori'n eang ledled Cymru i sicrhau bod unrhyw drefniadau newydd yn adlewyrchu blaenoriaethau Cymru ac yn cynnal y safonau uchaf o atebolrwydd a gwasanaeth.
Yn y pen draw, rhaid i unrhyw system yn y dyfodol wasanaethu buddiannau gorau plismona a'r cyhoedd, gan ddiogelu atebolrwydd lleol wrth gefnogi plismona effeithiol, sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Rydym yn croesawu ymrwymiad datganedig y Llywodraeth i sicrhau bod hyder y cyhoedd yn parhau i fod yn ganolog i oruchwyliaeth plismona, ac rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu'n adeiladol i gyflawni'r nod hwnnw.
Efallai y bydd rôl y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn newid, ond mae ein hymroddiad i bobl Cymru a'n hardaloedd Heddlu yn parhau i fod yn ddiysgog. Byddwn yn parhau i hyrwyddo llais dioddefwyr, cynnal hyder y cyhoedd, a gweithio'n ddiflino i sicrhau bod plismona yng Nghymru yn parhau i fod yn ymatebol, yn deg ac yn effeithiol drwy gydol y cyfnod pontio hwn a thu hwnt.