Dangos y Drws i Drosedd
Mae Heddlu Gwent wedi bod yn cefnogi busnesau yn Nhorfaen yr wythnos yma, yn darparu pecynnau marcio fforensig i fasnachwyr i helpu i gadw eu hoffer a'u hasedau'n ddiogel.
Rhoddodd tîm Dangos y Drws i Drosedd yr heddlu'r pecynnau i fasnachwyr mewn busnesau ym Mharc Diwydiannol Llantarnam yng Nghwmbrân. Maen nhw'n cynnwys Smartwater, hylif sydd â chod fforensig unigryw sydd bron yn amhosibl i'w ddileu ac sy'n ei gwneud yn bosibl i ni olrhain a dychwelyd eitemau at eu perchnogion gwreiddiol. Maen nhw hefyd yn cynnwys arwyddion i rybuddio troseddwyr bod Smartwater yn cael ei ddefnyddio.
Mae'r model 'Dangos y Drws i Drosedd’ yma wedi cael ei ddefnyddio gan heddluoedd ledled y Deyrnas Unedig ac mae wedi bod yn llwyddiannus yn lleihau ad-droseddu.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "I fusnes bach neu unig fasnachwr, mae cael eich offer ac asedau eraill wedi'u dwyn yn gallu chwalu eich bywoliaeth. Mae Dangos y Drws i Drosedd wedi cael ei brofi i fod yn effeithiol iawn yn atal troseddwyr ac mae'n un o lawer o ffyrdd rydyn ni'n eu defnyddio i wneud Gwent yn fwy diogel a gwneud gwahaniaeth go iawn i'n cymunedau.
I gael rhagor o wybodaeth am Dangos y Drws i Drosedd, ewch i wefan Heddlu Gwent.