Cynnydd ym mhraesept treth y cyngor i helpu i amddiffyn cymunedau Gwent

18fed Chwefror 2022

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, yn mynd i gynyddu'r swm y mae'r cartref cyffredin yn ei dalu am blismona trwy dreth y cyngor £1.32 y mis er mwyn caniatáu i Heddlu Gwent barhau i gadw cymunedau'n ddiogel.

Bydd y buddsoddiad hwn yn galluogi Heddlu Gwent i barhau i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol, a chreu swyddi ar gyfer 10 Swyddog Cymorth Cymunedol newydd dros y flwyddyn nesaf.

Daw'r penderfyniad ar ôl i'r Prif Gwnstabl Pam Kelly gyflwyno achos gweithredol ac ariannol cadarn, a rhaglen 12 wythnos o ymgysylltu cyhoeddus â thrigolion ledled Gwent. Mae hefyd yn adlewyrchu argymhelliad gan y Panel Heddlu a Throsedd i gynyddu praesept treth y cyngor 5.5 y cant ar gyfer 2022/23 i helpu i ymdrin â galwadau presennol ar y gwasanaeth.

Meddai Jeff Cuthbert: "Mae hwn yn benderfyniad anodd bob tro, ac mae'n fwy anodd nac erioed oherwydd yr argyfwng costau byw gwaethaf ers 30 mlynedd. Serch hynny, mae bron i hanner cyllideb Heddlu Gwent yn dod gan drethdalwyr lleol ac, heb gynnydd, byddai'n rhaid gwneud toriadau i wasanaethau hanfodol.

"Rwyf yn hyderus bod cynnydd o tua £1.32 y mis ar gyfartaledd yn dal yn fforddiadwy, ac yn caniatáu i Heddlu Gwent gyflawni'r ymrwymiadau yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd a pharhau i gadw Gwent yn un o'r llefydd mwyaf diogel yn y DU i fyw ynddo.

"Bydd hefyd yn galluogi Heddlu Gwent i recriwtio 10 Swyddog Cymorth Cymunedol arall dros y flwyddyn nesaf i wasanaethu ein cymunedau. Mae'r rhain yn ychwanegol at y 200 o swyddi newydd ar gyfer swyddogion heddlu rydym wedi buddsoddi ynddynt ers 2016, a'r 206 o swyddogion ychwanegol sy’n cael eu hariannu gan Ymgyrch Uplift Llywodraeth y DU.

“Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i rannu eu barn ac i'r Panel Heddlu a Throsedd am ei waith craffu a'i gefnogaeth barhaus.”

Dywedodd Prif Gwnstabl Pam Kelly: "Hoffwn ddiolch i Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, y panel a'r gymuned leol am gefnogi ein gwaith i gyflawni ein cynlluniau plismona yng Ngwent. Mae'r penderfyniad yn cydbwyso'r angen i gyflawni ein gwelliannau parhaus gyda'r pwysau ariannol cynyddol mae pawb ohonom yn eu hwynebu yn ein bywydau bob dydd. 

“Roeddwn yn falch o glywed yr adborth gan ein cymunedau lleol a gasglwyd yn ystod ymgynghoriadau'r praesept, yr oedd y mwyafrif helaeth ohono'n galonogol a chefnogol.  Rydym wedi ymroi i'ch gwasanaethu chi, mynd i'r afael â'r troseddau sy'n cael yr effaith fwyaf arnoch chi ac amddiffyn ein pobl fwyaf agored i niwed."