Cynnydd ym mhraesept treth y cyngor i helpu i amddiffyn cymunedau Gwent
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, yn mynd i gynyddu faint mae aelwydydd yn talu am blismona trwy dreth y cyngor 5.49 y cant er mwyn galluogi Heddlu Gwent i barhau i gadw cymunedau'n ddiogel.
O fis Ebrill, bydd cartref cyffredin yng Ngwent (seiliedig ar eiddo band D arferol) yn talu £1.25 ychwanegol y mis am ei wasanaeth plismona.
Bydd y buddsoddiad ychwanegol hwn yn Heddlu Gwent yn helpu i wella eu perfformiad a sut maent yn ymateb, a bydd yn galluogi'r llu i gyflogi 18 Swyddog Cymorth Cymunedol newydd yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
Daw'r penderfyniad i gynyddu cyllid Heddlu Gwent ar ôl i achos ariannol cadarn gael ei gyflwyno gan y Prif Gwnstabl, Pam Kelly, a rhaglen o ymgysylltu â thrigolion ledled Gwent am naw wythnos.
Dywedodd Jeff Cuthbert: “Roedd hwn yn benderfyniad eithriadol o anodd a hoffwn sicrhau trigolion na chafodd ei wneud ar chwarae bach. Mae'r pandemig wedi bod yn ergyd ariannol galed i lawer o bobl dros y flwyddyn ddiwethaf. Fodd bynnag, y gwirionedd yw bod bron i hanner cyllideb Heddlu Gwent yn dod gan drethdalwyr lleol, ac os na cheir cynnydd yn y praesept, bydd rhaid gwneud toriadau.
“Cyflwynodd y Prif Gwnstabl achos ariannol gonest a chadarn ar gyfer ei chyllideb ac rwyf wedi gorfod cydbwyso hynny gyda fforddiadwyedd i'r cyhoedd. Dywedodd dros hanner y 1,259 o drigolion a ymatebodd i'm harolwg y byddent yn fodlon ar godiad o hyd at £2 y mis a thrwy weithio'n agos gyda Heddlu Gwent yn ystod y broses pennu cyllideb, rwyf yn falch ein bod wedi gallu lleihau'r cynnydd angenrheidiol yn sylweddol. Rwyf yn hyderus bod codiad o £1.25 y mis ar gyfartaledd yn dal yn fforddiadwy, ac yn galluogi Heddlu Gwent i barhau i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol sy'n gwneud Gwent yn un o'r llefydd mwyaf diogel yn y DU.
“Bydd hefyd yn galluogi Heddlu Gwent i recriwtio 18 o swyddogion cymorth cymunedol newydd dros y ddwy flynedd nesaf ac mae hynny i'w groesawu. Mae'r rhain yn ychwanegol at y buddsoddiad sylweddol rydym wedi ei wneud mewn rhyw 170 o swyddogion heddlu newydd ers 2016, a gafodd ei ariannu trwy gynyddu praesept treth y cyngor hefyd. Er bod y gyllideb wedi cael ei phennu ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn awr, rwyf am sicrhau trigolion y byddwn yn ymdrechu i ganfod arbedion posibl ac yn blaenoriaethu buddsoddiad mewn gwasanaethau rheng flaen.
"Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i rannu eu barn."
Cyn pennu lefel y praesept, rhaid i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ystyried yr achos ariannol mae'r Prif Gwnstabl yn ei gyflwyno am yr arian sydd ei angen ar Heddlu Gwent i weithredu ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Yn ogystal â'r swyddogion cymorth cymunedol a fydd yn cael eu recriwtio, bydd yr arian ychwanegol yn galluogi newidiadau i blismona ymatebol, i helpu swyddogion i berfformio ac ymateb yn well, mwy o gefnogaeth i swyddogion y ddalfa, a mwy o gefnogaeth i'r Uned Cymorth Ardal a gwaith yr Adran Cŵn.
Dywedodd Prif Gwnstabl Pam Kelly: "Rydym yn deall yr heriau mae pawb yn eu hwynebu ar hyn o bryd ond rydym wedi ymroi i fynd i'r afael â throsedd ledled Gwent. Boed hynny'n datrys byrgleriaethau lleol neu'n amharu ar drosedd trefnedig difrifol ar draws ein hardal, rydym am i'n trigolion fod yn hyderus ein bod yn gweithio'n galed i'w hamddiffyn.
"Rydym yn cynyddu nifer y swyddogion sydd gennym ar draws y llu a byddant yn gweithio ar y rheng flaen gan ein gwneud yn fwy gweladwy, ond byddant yn mynd i'r afael â throseddau mwy cudd ar yr un pryd, troseddau sy'n gallu arwain at ganlyniadau dinistriol, gan gynnwys seiberdrosedd a cham-fanteisio ar unigolion agored i niwed."
Adolygwyd y penderfyniad gan Banel Heddlu a Throseddu Gwent mewn cyfarfod ddydd Gwener 29 Ionawr. Argymhelliad y panel oedd y dylai'r Comisiynydd ystyried opsiynau i ostwng y cynnydd arfaethedig o 5.49 y cant yn y praesept ar gyfer 2021/22, ar yr amod nad yw'n effeithio ar niferoedd swyddogion rheng flaen a staff.
Dywedodd Jeff Cuthbert: “Rwyf yn ddiolchgar i'r Panel Heddlu a Throseddu am ei waith craffu a'i gefnogaeth, ac rwy'n deall ei ddyhead i gadw cyfraddau mor isel â phosibl i drethdalwyr lleol. Fodd bynnag, ar ôl adolygu'r achos ariannol mae'n amlwg y bydd unrhyw beth llai na 5.49 y cant yn peryglu gallu'r Prif Gwnstabl i amddiffyn a thawelu meddwl pobl Gwent, yn arbennig y bobl hynny sydd fwyaf agored i niwed."