Cynllun ariannu diogelwch mannau addoli
18fed Mehefin 2020
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi croesawu cynllun ariannu gan Y Swyddfa Gartref i helpu i warchod mannau addoli rhag troseddau casineb.
Dywedodd: “Ni ddylai unrhyw un fod yn destun casineb, beth bynnag yw eu crefydd, a bydd y gronfa hon yn helpu i ddiogelu mannau addoli, gwarchod adeiladau a chadw pobl sy'n mynychu yn ddiogel."
Mae manylion y cynllun ar wefan Y Swyddfa Gartref.